Wrecsam LL13 0XT
Ffôn: +44 (0)1978 355314
Ffacs: +44 (0)1978 313333
Gwefan: www.nationaltrust.org.uk

Ar agor:
Ebrill - Hydref: 11am - 6pm
Mynediad:
Prisiau hyd at 28 Chwefror 2003:
Oedolyn:
£6.60
Plentyn:
£3.30
Teulu:
£16.50
Partïon o 15+:
£5.30
Y Gerddi a’r adeiladau allanol yn unig:
Oedolyn:
£3.40
Plentyn:
£1.70
Teulu:
£8.50
Partïon o 15+:
£2.70
Aelodau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol am ddim
Parcio 200m
Parcio Bysiau:
Dim mwy nag 8 bws
Teithiau tywys:
Ar gael i grwpiau drwy drefniant
Lluniaeth:
Bwyty
Siopa:
Cynnyrch perthnasol i erddi a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Digwyddiadau Arbennig a Chyrsiau:
Plygu gwrych a gwneud llidiardau derw. Ffoniwch am ddyddiadau a manylion.
Toiledau:
Cyffredinol ac i bobl ag anabledd.
Mynediad i bobl ag anabledd:
Ar gael drwy’r gerddi ac ar lawr gyntaf y t_ yn unig.

Sut i Ddod o Hyd i Ni::
Cliciwch Yma


Cyswllt i Erddig ar Wefan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol

Mae Erddig yn le arbennig iawn. Mae’n gartref teuluol unigryw sydd wedi dal ffordd o fwy cartref prysur yn ystod blynyddoedd cynnar y ganrif ddiwethaf. O dan y grisiau ceir casgliad hudolus o luniau, ffotograffau a phenillion yn cofnodi’r bobl a dreuliodd eu bywydau gwaith ar y stâd ac yn dangos y parch uchel yr oedd gan deulu’r Yorke tuag at eu gweision a’u morynion. I fyny’r grisiau mae’r ystafelloedd yn cynnwys casgliad gwreiddiol o ddodrefn y 18fed ganrif ac yn llawn o drysorau a gasglwyd gan deulu nad oedd byth yn taflu dim i ffwrdd, o’r prin a hardd i’r dibwys a chyffredin.

Bydd eich ymweliad yn cychwyn yn adeiladau’r stâd lle bu’r saer a’r gof yn gweithio, drwy’r Iard y Domen, gyda melin lifio a hoewaliau, i Iard y Stabl gyda’i hystafell harneisiau, cerbydau a beiciau a cheir henafol. Yna byddwch yn symud ymlaen at yr ystafell olchi, y becws a’r gegin.

Mae gardd gaeedig Erddig yn un o‘r gerddi pwysicaf yng ngwledydd Prydain i oroesi o’r 18fed ganrif. Mae ganddi goed ffrwythau prin, camlas, pwll ac yno mae’r Casgliad Iorwg Cenedlaethol.

Oriel Luniau:
Cliciwch ar y lluniau isod i’w gwneud yn fwy: Bydd y lluniau’n agor mewn ffenestr newydd.

 




Dewiswch ardd i’w gweld:
1 Aberglasne l 2 Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru l 3 Gerddi Dyffryn l 4 Amgueddfa Werin Cymru l 5 Gerddi Bodnant l 6 Castell Penrhyn l 7 Plas Newydd l 8 Erddig l 9 Castell y Waun l 10 Castell Powys l 11 Portmeirion