Mae tocyn gardd newydd Prif Erddi Cymru ar gael yn awr ac wedi’i gynllunio’n benodol at ddefnydd y farchnad deithio.

Bydd y Tocyn yn caniatáu mynediad rhad ac am ddim i unrhyw 3 o’r 11 Prif Erddi ac mae’n ddelfrydol ar gyfer ymwelwyr sy’n teithio. Mae’r tocyn ar gyfer oedolion yn unig (gall plant dalu am fynediad wrth gyrraedd) a bydd y deilydd yn gallu ymweld ag unrhyw un o’r gerddi yn y gr_p.

(Nodwch fod mynediad i Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan yn rhad ac am ddim ond gellir defnyddio’r tocyn yn y bwyty neu yn y siop hyd at werth £4. Nid yw’r tocyn yn rhoi mynediad i’r tai hanesyddol sy’n gysylltiedig â’r gerddi nac i ddigwyddiadau arbennig).

Dim ond drwy’n farchnad deithio mae tocyn gardd Prif Gerddi Cymru ar gael. Gallwch ei brynu am £12 neu 18 ewro a chi fydd yn penderfynu faint i godi amdano. Mae Prif Erddi Cymru’n argymell codi pris o £15 neu 24 ewro.


Mae Prif Erddi Cymru hefyd yn lansio amrywiaeth o becynnau dethol ar gyfer grwpiau - o ginio yng ngolau cannwyll yn nh_ gwydr mawr Gardd Botaneg Genedlaethol i ddarlithiau ar ‘iechyd a’r ardd’, sy’n rhoi cipolwg ar feddyginiaethau per lysieuol y canol oesoedd.

Bydd ein penwythnosau gourmet a dyfrlliw yn gyfle i ymwelwyr dreulio oriau lawer yn ymlacio a mwynhau ein gerddi. Mae’n bosibl trefnu dosbarthiadau Meistr Celf lle mae’r sawl sy’n cymryd rhan yn gallu paentio y lle o’u cwmpas, gan gadw cofrodd personol, arbennig am byth. Ar gyfer bolgwn, bydd ein cogyddion talentog yn dangos danteithion anhygoel o’r gegin gan ddefnyddio cynnyrch ffres lleol. Wrth gwrs bydd yr ymwelwyr yn cael y cyfle i flasu’r canlyniadau!



Dylai Asiantau Teithio e-bostio info@premiergardenswales am brisiau a gwybodaeth ynghylch dosbarthu.

Dewiswch ardd i’w gweld:
1 Aberglasney l 2 National Botanic Garden of Wales l 3 Dyffryn Gardens l 4 Museum Of Welsh Life l 5 Bodnant Garden l 6 Penrhyn Castle l 7 Plas Newydd l 8 Erddig l 9 Chirk Castle l 10 Powis Castle l 11 Portmeirion